Ffôn: 01286 672 212

Canolfan Garddio Fron Goch Caernarfon Gogledd Cymru

Mae Fron Goch yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion, offer ac ategolion gardd. Mae gennym hefyd gaffi gyda seddi tu fewn a’r tu allan, siop fferm, siop anrhegion ac adran offer dodrefnu cartrefi.

Mae Fron Goch yn ganolbwynt y gymdeithas leol yn ogystal â bod yn atyniad i ymwelwyr. Dim ond ychydig o funudau o gastell a muriau hanesyddol Caernarfon, mae Canolfan Arddio Fron Goch mewn cefn gwlad hardd ger Rheilffordd Eryri.

Planhigion sy’n dod gyntaf!

Fe gewch amrywiaeth eang o blanhigion yng Nghanolfan Arddio Fron Goch. Mae’r rhan fwyaf o’n planhigion ardderchog ar gyfer gwelyau blodau, patio a photiau yn cael eu tyfu yn ein meithrinfa ni’n hunan.Yn ogystal â phlanhigion addurnol rydym hefyd yn gwerthu planhigion llysiau a pherlysiau.I dyfu planhigion o hadau neu i'w plannu mewn potiau neu fasgedi - mae Fron Goch yn gwerthu popeth y byddwch eu hangen i ofalu am eich planhigion iach eich hunan. Os ydych yn arddwr dibrofiad - peidiwch â phoeni. Gofynnwch i unrhyw un o'n staff gwybodus neu dewch i ddysgu yn un o'n gweithdai.

Mae planhigion wedi bod yn flaenoriaeth i ni yma erioed, a chyda nifer o rai anarferol ac anodd eu cael mewn stoc, rydym yn enwog am ein hamrywiaeth a'n hansawdd. Mae ein planhigion yn cael eu trefnu gan fwyaf yn ôl yr amodau tyfu y maen nhw eu hangen, sy’n eich helpu i ddewis y planhigion iawn ar gyfer yr amodau iawn. Gan ein bod lle'r ydym, rydym yn cadw amrywiaeth eang o goed a phrysglwyni'r arfordir sy'n ddelfrydol i wrthsefyll y gwyntoedd hallt arferol.










Cael ein Taflen Newyddion

Cewch wybodaeth ynghylch cynigion a digwyddiadau arbennig yng Nghanolfan Arddio Fron Goch yn fuan.

hawlfraint © 2009 Canolfan Arddio Fron Goch. d&d Sbarc

Ffôn: 01286 672 212, Cyfeiriad: Canolfan Garddio Fron Goch, Pant Road, Llanfaglan, Caernarfon, Gwynedd, Cymru, LL54 5RL