Tyfu’ch hun
Fe gewch amrywiaeth eang o blanhigion yng Nghanolfan Arddio Fron Goch – popeth o blanhigion lluosflwydd i rai alpaidd.
Mae’r rhan fwyaf o’n planhigion ardderchog ar gyfer gwelyau blodau, patio a photiau yn cael eu tyfu ym Meithrinfa Fron Goch.
Yn ogystal â phlanhigion addurnol rydym hefyd yn gwerthu planhigion llysiau a pherlysiau. I’w tyfu o hadau neu i’w plannu mewn potiau neu fasgedi – mae Fron Goch yn gwerthu popeth y byddwch eu hangen i dyfu eich planhigion iach eich hunan. Os ydych yn arddwr dibrofiad - peidiwch â phoeni. Gofynnwch i unrhyw un o’n staff gwybodus neu dewch i ddysgu yn un o’n gweithdai.
Planhigion
Mae planhigion wedi bod yn flaenoriaeth i ni yma erioed, a chyda nifer o rai anarferol ac anodd eu cael mewn stoc, rydym yn enwog am ein hamrywiaeth a’n hansawdd. Mae’r dewis yn cynnwys rhododendron o’r Himalaya, coed rhedyn, coed conwydd egsotig ac amrywiaeth gynyddol o blanhigion lluosflwydd, prysglwyni a choed. Dangosir y planhigion gan fwyaf mewn grwpiau yn ôl yr amodau gorau ar gyfer eu tyfu. Gan ein bod lle’r ydym, rydym yn cadw amrywiaeth eang o goed a phrysglwyni’r arfordir sy’n ddelfrydol i wrthsefyll gwyntoedd.

Mae planhigion gwelyau, patio a chynwysyddion yn gwneud arddangosfa enfawr o fis Chwefror tan fis Rhagfyr, gan gynnig i chi liwiau yn yr awyr gored gydol y flwyddyn, ac mae ein hamrywiaeth o blanhigion bychan a phlwg i rai maint sbesimen yn berffaith ar gyfer creu effaith ar unwaith yn yr ardd. Mae llawer o’r planhigion yn cael eu tyfu yma, yn ein meithrinfa.
Mae ein hamrywiaeth o goed ffrwythau a phrysglwyni, planhigion llysiau a pherlysiau yn eang ac yn cynyddu’n ddyddiol wrth i fwy a mwy ohonom fwynhau a gwerthfawrogi’r cyfle i dyfu a bwyta ein bwyd ein hunain.
Hadau a Bylbiau

Rydym yn cadw amrywiaeth lawn o hadau Sutton, pob un ar gael o ganol Ionawr ymlaen. (Cedwir llai yn yr hydref – dim ond yr hadau sy’n addas ar gyfer eu hau yn yr hydref a’r gaeaf.) Hefyd, o ganol Ionawr, byddwn yn cadw amrywiaeth eang o datws hadyd yn ogystal â setiau nionod, sialóts a bylbiau garlleg.
A ydych yn ffan o Fritillaria neu’n gwirioni ar Geranium, mae’n werth cael golwg ar ein bylbiau gwanwyn a’r hydref. Rydym yn anelu at gadw amrywiaeth eang o rywogaethau a lliw felly fe ddylai fod rhywbeth at fysedd gwyrdd pob garddwr.
Lluosogi

Mae bodlonrwydd mawr i’w gael wrth dyfu eich planhigion eich hunan o hadau neu doriadau! Mae gennym ni bopeth fyddwch ei angen!
O Luosogion (wedi a heb eu twymo) i Botiau (mawr a bach). Yna, mae yna’r holl bethau eraill ar gyfer gwneud y gwaith yn haws: pethau mewn hambyrddau planhigion, vermiculite a perlite, hambyrddau gro, hyd yn oed caeadau newydd i luosyddion. Dim lle ar ôl ar eich silff ffenest neu yn y tŷ gwydr? Fel arfer bydd gennym dai gwydr bychan, sydd hefyd yn wych ar gyfer caledu planhigion meddal.
Cael ein Taflen Newyddion
Cewch wybodaeth ynghylch cynigion a digwyddiadau arbennig yng Nghanolfan Arddio Fron Goch yn fuan.

acebook

