Gofal gardd
Mae gerddi a mannau agored angen llawer o ofal.
Gallwch gael yr holl offer ar gyfer hynny yng Nghanolfan Arddio Fron Goch. Popeth o grafwr lawntiau i frwsys iard, mae ein cynnyrch o safon ac am brisiau rhesymol. Os nad ydych yn sicr beth ydych ei angen, gofynnwch i un o’n staff gwybodus a chewch help ar unwaith.
Offer ac Ategolion Gardd
Mae gennym wahanol safonau o rai rhad a rhadlon i rai enwog fel secateurs Felco.
Mae ein pecynnau parod yn cynnwys yr holl bethau eraill y byddwch eu hangen fel sgriwiau, labeli, peniau marcio, clipiau tŷ gwydr, pethau clymu, raffia, gwifrau a llinyn. Mae hanfodion ymarferol eraill, clustogau penlinio, awyrwyr lawntiau, berfâu, llosgwyr, bagiau cadw, brwsiau a phadelli llwch mewn stoc fel arfer.
Gwrteithiau, Chwynladdwyr a Rheoli Pla
O bryd i’w gilydd, bydd ein gerddi angen ychydig o help llaw, lawnt llawn chwyn efallai, rhosynnau rhydlyd neu os yw’r eich hostas ar ben bwydlen ymlusgiaid yr ardal mae rhywbeth yn siŵr o fod yn y siop i’ch helpu, rhai ‘confensiynol’ neu organig.
Rydym yn ymestyn ein hadran Organig ar hyn o bryd ac yn ei gwneud yn fwy. Os nad ydych yn sicr beth sy’n effeithio ar eich planhigion, dewch ag un ffres draw (mewn bag plastig clir, plîs) a bydd un o’n staff yn helpu i fynd at wreiddyn y mater a chanfod y ffordd orau ymlaen.
Gofal Lawnt
Rydym yn newid ein cynnyrch gofal lawnt yn ôl y tymor ac yn ôl eich gofynion. Fe gewch amrywiaeth o fwyd, chwynladdwyr a lladdwyr mwsogl yn ein hadran gofal lawntiau yn ogystal â thriniaethau cyfun gan gwmnïau arweiniol megis Westland a’r Evergreen Lawn Builder.
Cyfarpar Dyfrio
Wrth i’n hafau ddod yn gynhesach a’n gaeafau’n sychach mae dyfrio a chadw dŵr yn daten boeth. Rydym yn dal i gadw amrywiaeth da o bibau Hozelock, o rai rhad i rai arbenigol, rhag cincio. Mae gennym hefyd amrywiaeth lawn o ffitiadau ac ategolion. Rydym yn cadw system dyfrio awtomatig Hoselock, bendith i’r rhai sy’n benwan am botiau neu’n edrych gyda balchder ar eu basgedi crog!
I’r rhai ohonom sydd â mesuryddion dŵr, neu’n awyddus, efallai, i beidio â’i wastraffu, mae gennym hefyd gasgenni dŵr, o rai enfawr i rai bach, tenau sy’n addas ar gyfer hyd yn oed yr ardd leiaf. Mae yma hefyd ganiau dyfrio, rhai plastic a rhai sinc, bach a mawr a dewis da o bennau dyfrio.
Compost
Mae gennym bopeth, o gompost cacti a thegeirian i gymysgeddau John Innes, rhai organig, rhai heb fawn a rhai amlbwrpas.
Gellir defnyddio gro fel gorchudd neu ar gyfer llwybrau, mae gennym nifer o liwiau mewn stoc fel arfer o aur, gwyn, llechi i goch a meintiau o raean mân a maint pys i gerrig mân a rhai ar gyfer gardd gerrig.
Cael ein Taflen Newyddion
Cewch wybodaeth ynghylch cynigion a digwyddiadau arbennig yng Nghanolfan Arddio Fron Goch yn fuan.

acebook

