Saib a thamaid a Caffi Fron Goch
Yma, yn Fron Goch, ein siop Goffi a’n Bwyty yw’r lle perffaith i gyfarfod teulu a ffrindiau. Ymlaciwch a mwynhewch eich hun, gwnewch eich hun yn gyfforddus, sbwyliwch eich hunan efo’n prydau a’n cacennau cartref.
Mae pob un o’n prydau’n cael eu coginio yma yn ein ceginau ni ein hunain. Rydyn ni’n prynu ein cig a’n llysiau gan gyflenwyr lleol, rydyn ni’n eu hadnabod ac mi allwn ni ymddiried ynddyn nhw. Felly, er enghraifft rydyn ni’n cael ein Twrci, einPorc a’n Bîff gan ein cigydd lleol yng Nghaernarfon, y cyfan wedi’u magu yng Ngwynedd. Mae’r rhan fwyaf o’n cacennau’n cael eu crasu yma yn ein ceginau, dyna pam eu bod mor ffres a blasus. Mae sgioniau’n cael eu crasu drwy’r dydd ac maen nhw’n aml yn dal yn gynnes wrth i ni’n eu gweini.
- Bydd brecwast yn cael ei weini o 9.30am tan 11am o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac o 10am tan 11am ar y Sul.
- Mae ein cawl a’n brechdanau cartref yn cael eu gweini bob dydd o tua 11.30am i 3pm yn dibynnu faint sydd ar gael.
- Bydd ein cinio poeth ar gael bob dydd o 11.45am tan 2.30pm (heblaw dydd Iau a dydd Sul pan fyddwn yn cynnig carferi) yn dibynnu ar faint sydd ar gael, fel arfer mae yna dri dewis gan gynnwys un llysieuol.
- Mae ein bar Salad yn berffaith ar gyfer cinio ysgafn ac iach. Mae’n llawn o ddewisiadau sy’n cael eu paratoi’n ffres, gan gynnwys ein quiche cartref. Ar gael fel arfer rhwng tua 11am a 4pm.
- Mae ein carferi rhost yn enwog ac yn cael ei weini Ddydd Iau a Dydd Sul o 11.45am i 2.30pm yn dibynnu faint sydd ar gael.
- Bydd Te Bach Pnawn i Ddau yn cael ei weini o 3pm to 4.30pm o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn. Pleser pur! Brechdanau a’n cacenni hufen cartref arbennig. Fydd dim rhaid i chi wneud swper ar ôl hyn!
- Mae Pannini wedi’u tostio ar gael o tua 11am i 4.30pm bob dydd.
Mae gennyn ni ddigonedd o le eistedd a darpariaeth ardderchog ar gyfer plant ac ymwelwyr anabl ac oedrannus. Gallwch fwynhau ein cornel y plant – efo lwc, mi fyddan nhw’n diddanu eu hunain wrth i chi gael cinio. Mwynhewch ein cornel gysurus, ewch â chadair ger y tan, perffaith pan mae’n rhaid i chi fynd allan ar ddiwrnod llaith. Dydyn ni ddim yn cymryd archebion. Mae yna ddigon o le fel arfer ond dewch yn gynnar ar ddyddiau prysur fel gwyliau a Sul y Mamau.
Cael ein Taflen Newyddion
Cewch wybodaeth ynghylch cynigion a digwyddiadau arbennig yng Nghanolfan Arddio Fron Goch yn fuan.

Join us on 

