Edmygu'ch gardd
Diolch byth, nid yw gerddi’n ddim ond gwaith, gwaith, gwaith!
Mae Canolfan Arddio Fron Goch yn gwerthu amrywiaeth o botiau, basgedi, cynhwysyddion a rheolwyr er mwyn i’ch arddangosfa edrych ar ei gorau. Rydym hefyd yn gwerthu nifer o ddodrefn gardd, fel, ar gyfer pan ddaw’n adeg i eistedd yn ôl gyda llymed bychan i edmygu’ch gwaith.
Basgedi Crog ac Ategolion Cynhwysyddion
Os gallwch osgoi’r demtasiwn o brynu ein basgedi crog hardd a phenderfynu eu plannu eich hunan, mae gennym bopeth y byddwch ei angen ar gyfer y fasged grog berffaith.
Mae gennym amrywiaeth helaeth o fasgedi, o’r rhai gwifren draddodiadol (gyda phob math o fwsogl, sisal a leiners ffibr co-co ar gyfer pob math a maint) i ddewis hyfryd o rai gwiail pleth o bob math. A chyda chymaint o ddewis, dylai fod yma fasged ar gyfer unrhyw fan.
I gael y gorau o’ch basged am y cyfnod hwyaf, mae gennym hefyd geliau dŵr a chymhorthion dyfrio eraill, gwrteithiau’n rhyddhau’n araf a gwahanol fathau o gompost ar gyfer eich anghenion arbennig chi.
Dodrefn Gardd
Mae gennym ddewis helaeth o ddodrefn gardd ardderchog yn y Ganolfan. Gyda chymaint o ddewis, gallwch alw yma a mynd â’ch dodrefn adref neu gallwn ni drefnu eu danfon.
Cynhwysyddion Terracotta, Plastig a Phrens
Mae gennym ddewis syfrdanol o botiau a chynhwysyddion mewn terracota sgleiniog a cherrig. Mae terracotta, llestri pridd, crochenwaith, cerameg yn dermau cyffredinol i ddisgrifio potiau o wahanol ddefnyddiau, wedi’u tanio ar dymheredd isel neu uchel gyda neu heb sglein.
Gofal Adar
Mae ein hadran gofal adar gwyllt yn gyforiog o bopeth sydd ei angen i fwynhau’r adloniant y gall adar gwyllt Cymru ei gynnig yn yr ardd.
Gallwch weld yr amrywiaeth helaeth o fyrddau adar a blychau nythu a bachau i siwtio unrhyw ardd, neu boced! Hefyd, mae gennym amrywiaeth gynyddol o flychau bywyd gwyllt i annog ac amddiffyn bywyd gwyllt yr ardd, o "Balas Broga" i "Gaer y Glöyn".
Ac, wrth gwrs, mae gennym ddewis o fwydydd adar, o ddanteithion braster, prydau mwydod, nifer o gymysgeddau a hadau a’r cnau a’r bwydydd eraill arferol. Mae llawer o’r rhain mewn bwcedi neu flychau mwy na’r arfer i roi’r prisiau gorau posibl.
Erbyn hyn hefyd, dim ond y ni yn yr ardal sy’n cadw bwydydd ac offer bwydo Ymddiriedaeth Ornitholeg Prydain sy’n cael cyfraniad o bob pryniant.
Cael ein Taflen Newyddion
Cewch wybodaeth ynghylch cynigion a digwyddiadau arbennig yng Nghanolfan Arddio Fron Goch yn fuan.

acebook

