Ffôn: 01286 672 212

Amdanom Fron Goch Canolfan Garddio

Y teulu Williams sydd piau ac sy’n rhedeg Canolfan Arddio Fron Goch. Robin a’i wraig Valerie oedd yr entrepreneuriaid gwreiddiol.

Roedd Robin, sy’n hanu o Gaernarfon, yn gweithio i ddechrau fel darlithydd garddwriaeth yng Ngholeg Glynllifon cyn prynu safle Fron Goch ar gyfer gardd fasnachol ym 1981. Agorwyd siop fferm cyn i Fron Goch ddatblygu’n ganolfan arddio yn y 1990au.

Mae Canolfan Arddio Fron Goch yn cyflogi dros 50 o bobl, llawer o’r ardal, ac sy’n rhannu ein hangerdd am bopeth gwyrdd.

Cwmnïau bysiau

Mae croeso i bartïon bysiau yng Nghanolfan Arddio Fron Goch. Mae’n lle delfrydol i aros, dim ond funudau oddi wrth y castell, Safle Treftadaeth y Byd a muriau tref ganol oesol Caernarfon.

Mae’r Ganolfan ger Rheilffordd Eryri a ger yr adwy i Borthmadog, Pwllheli a Phenrhyn Llŷn. Dim ond 30 munud i ffwrdd mae pentref Eidalaidd Portmeirion.

Gyda digonedd o le parcio i fysiau a digon o le i’r rhai sy’n cael trafferth symud, mae Fron Goch yn apelio at bob oedran a gallu. Gall ein caffi eistedd 150 o bobl yn gyfforddus.

Os hoffech ychwanegu Fron Goch at eich teithiau, cysylltwch gyda Melanie Sewell ar 01286 672212.

Newsletter Sign Up

Get information about special offers and events occurring at Fron Goch Garden Centre in the near future

hawlfraint © 2009 Canolfan Arddio Fron Goch. d&d Sbarc

Ffôn: 01286 672 212, Cyfeiriad: Canolfan Garddio Fron Goch, Pant Road, Llanfaglan, Caernarfon, Gwynedd, Cymru, LL54 5RL